Fy enaid edrych fry a gwel, Y wlad sy'n llifo o laeth a mêl; Gorphwysfa y rhai a ddaeth trwy ras, O gystudd mawr y byd i ma's. Eu dagrau oll a sychwyd ffwrdd, Galar a thristwch byth nis cwrdd; Ni ddaw marwolaeth mwy na phoen, I ŵydd y croeshoeliedig Oen. O flaen y faingc mil miloedd mae, Pwrcas ei waed, ei chwys a'i wae; Y dyrfa fawr fu gynt ar goll, Yn awr yn gorfoleddu oll. Priodferch Iesu ydyw rhai'n, A wisgwyd oll â lliain main; Yn edrych ar ei wedd bob awr, Yn nghanol y gogoniant mawr.William Williams 1717-91 [Mesur: MH 8888] gwelir: O flaen y fainc mil miloedd mae |
My soul, look up and see, The land which is flowing with milk and honey; The resting place of those who came through grace, Out from the great tribulation of the world. All their tears were dried away, Mourning and sadness never shall they meet; Nor shall death come any more, or pain, To the face of the crucified Lamb. Before the throne are a thousand thousand, The purchase of his blood, his sweat and his woe; The great throng who were once lost, Now all rejoicing. The bride of Jesus are they Who were all clothed with fine linen; Looking on his face every hour, In the midst of the great glory.tr. 2016 Richard B Gillion |
|